10/02/2023
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Eraill
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202105779
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau
Brwdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cwynodd Mr A am yr oedi cyn cael diagnosis o ganser ei wraig, Mrs A. Yn benodol, roedd ei gŵyn yn cwestiynu: a oedd triniaeth Mrs A gan Adran Rhiwmatoleg y Bwrdd Iechyd yn briodol, a oedd Meddygfa Mrs A wedi ymchwilio’n briodol i’w chwynion o boen yn ei hasennau, a oedd presgripsiwn y Feddygfa o gyffuriau gwrthfiotig ar ôl i Mrs A ryddhau ei hun o’r ysbyty yn briodol, ac a gollwyd cyfle gan y ddau sefydliad i roi diagnosis cynt o ganser yr iau.
Casglodd yr ymchwiliad fod yr ymchwiliadau a wnaed gan y Bwrdd Iechyd a’r Feddygfa’n briodol a bod eu diagnosis o boen asennau / costocondritis ar gyfer poen Mrs A yn rhesymol. Ni ddaeth o hyd i dystiolaeth i awgrymu bod yr un sefydliad wedi colli cyfle i amau bod gan Mrs A ganser yr iau fel yr hyn a oedd yn achosi’r boen. Casglodd fod y Feddygfa wedi trin ei symptomau’n briodol, gan gynnwys rhoi cynnig ar nifer o wahanol gyffuriau lladd poen. Casglodd fod y presgripsiwn o gyffuriau gwrthfiotig (gan gynnwys y math o gyffuriau gwrth-fiotig a’r oedi cyn eu rhagnodi nes y derbyniwyd gwybodaeth ryddhau gan yr ysbyty) yn briodol. Ni dderbyniwyd y cwynion felly.