10/02/2023
Iechyd
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202205513
Datrys yn gynnar
Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cwynodd Ms X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â delio’n briodol â’i chŵyn am Feddygfa yn ei ardal. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’r pryderon a godwyd gan Ms X.
Barnodd yr Ombwdsmon fod y broblem gyda’r Feddygfa wedi’i chodi’n wreiddiol gyda’r Bwrdd Iechyd mewn llythyr cwyn ym mis Gorffennaf 2020, y cyfeiriwyd ato mewn gohebiaeth nes ymlaen. Er y cafwyd amrywiol drafodaethau rhwng y Bwrdd Iechyd a Ms X ynghylch pryderon eraill a godwyd, ni chafodd yr elfen hon o’r gŵyn ei thrafod na’i hateb. Nid oedd ymateb ffurfiol wedi’i roi i’r gŵyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwilio.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn un mis, i ymddiheuro’n ysgrifenedig wrth Ms X am fethu ag ymateb i’w chŵyn ac i ymateb i Ms X yng nghyswllt yr elfen hon o’i chŵyn, o fewn deufis.
Barnodd yr Ombwdsmon fod y camau uchod yn rhesymol er mwyn setlo cwyn Ms X.