Wrth i’r Ombwdsman newydd, Michelle Morris, ddod i’r swydd ym mis Ebrill y llynedd, lansiodd y gwaith o ddiffinio’r set newydd o flaenoriaethau ar gyfer ei chyfnod yn y swydd. Gwnaethom edrych ar ystod eang o dystiolaeth – ein tueddiadau gwaith achos, monitro cydraddoldeb, ac ymchwil barn rhanddeiliaid. Yn ogystal, gwnaethom ymgynghori yn fewnol a chynnal ymgynghoriad allanol ar y Cynllun Strategol arfaethedig.
Tynnodd y dystiolaeth hon sylw at rai cyfleoedd ond hefyd heriau sy’n wynebu ein swyddfa.
Mae nifer y cwynion sy’n cyrraedd ein swyddfa yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Nid yw rhai cymunedau amrywiol yn gwybod amdanom gystal ag y dylent ac anaml y byddant yn cwyno wrthym. Fel pob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru, rydym hefyd yn wynebu heriau economaidd ac mae angen i ni addasu i ffyrdd newydd, hyblyg o weithio.
I fynd i’r afael â’r heriau hyn a rhai eraill, ynghyd â chael effaith ystyrlon a pharhaol, mae’n rhaid i ni fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a rhoi cynnig ar atebion newydd.
Mae ein Cynllun newydd yn datgan yn glir mai ein huchelgais yw sicrhau’r canlynol:
Byddwn yn gwireddu’r uchelgeisiau hyn drwy ddilyn pedwar Nod Strategol:
Rydym yn gwybod bod angen i ni wneud mwy i ddangos sut yr ydym yn gwneud gwahaniaeth. Dyma pam rydym yn esbonio ar gyfer pob un o’n Nodau newydd sut y byddwn yn gwybod bod ein gwaith wedi cael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a pha dystiolaeth y byddwn yn edrych arni i fesur llwyddiant.
Os ydym am gael effaith gadarnhaol barhaol ar y bobl, gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol yn y Gymru ôl-bandemig newydd, nid yw busnes fel arfer yn ddewis. Mae’r Cynllun hwn yn cynrychioli dechrau pennod newydd yn ein gwasanaeth i bobl Cymru.
I ddarllen y Cynllun, ewch yma.
Neu dysgwch mwy am ein Cynllun o’r fideo byr yma!