20/03/2023
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202105979
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cwynodd Mrs F am weithredoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”). Dywedodd Mrs F:
• Yn dilyn anaf i’r gwddf ym mis Mai 2019, methodd y Bwrdd Iechyd ar ddau achlysur i roi diagnosis o fertebra wedi’i falu.
• Methodd ffisiotherapydd â’i chyfeirio at ragor o archwiliadau pan nad oedd ei chyflwr wedi gwella.
• Roedd dulliau cyfathrebu gwael a chyngor anghyson gan staff ynghylch sut i reoli’r anaf i’w fertebra.
• Ni wnaeth y Bwrdd Iechyd egluro pam ei fod wedi dewis peidio â defnyddio ei ddisgresiwn i dderbyn cwynion y tu allan i’r cyfnod o 12 mis, wrth wrthod ei chŵyn.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon:
• Roedd yr archwiliad a’r asesiad a gafodd Mrs F yn dilyn ei hail ymweliad â’r Adran Achosion Brys yn is na’r safon, a phetai canllawiau cenedlaethol wedi cael eu dilyn, roedd hi’n debygol y byddai’r anaf i’w fertebra wedi cael diagnosis yn gynt, fel y byddai ei diagnosis o fwy nag un myeloma. Cadarnhawyd y gŵyn hon.
• Ar sail symptomau Mrs F, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod y ffisiotherapydd wedi methu ei chyfeirio ymlaen ar gyfer ymchwiliadau pellach. Ni chafodd y gŵyn hon ei chadarnhau.
• Er bod y dull o reoli anaf Mrs F yn briodol, nid oedd yn bosib dod i gasgliad am y dulliau cyfathrebu a’r cyngor a roddwyd i Mrs F.
• Methodd y Bwrdd Iechyd esbonio pam ei fod wedi dewis peidio â defnyddio ei ddisgresiwn wrth wrthod cwyn Mrs F. Methodd hefyd gael sylwadau gan ei dîm Achosion Brys a phe bai wedi gwneud hynny, mae’n debygol y byddai wedi derbyn cwyn Mrs F yn ogystal â’i chadarnhau. Cadarnhawyd y gŵyn hon.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs F, talu iawndal o £750 i gydnabod asesiad is na’r safon yr Adran Achosion Brys, gwneud taliad iawndal pellach o £250 i gydnabod ei fod wedi delio’n wael â’r gŵyn a’r amser a’r drafferth o ddod â’i chŵyn i sylw’r Ombwdsmon. Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd fod yr adroddiad yn cael ei rannu â chlinigwyr yr Adran Achosion Brys a oedd yn ymwneud â gofal Mrs F yn ystod ei hail asesiad ac mewn fforwm Ymgynghorol priodol er mwyn gallu dysgu gwersi a gwneud gwelliannau. Ar ben hynny, argymhellodd yr Ombwdsmon fod yr adroddiad yn cael ei rannu â staff trin cwynion y Bwrdd Iechyd.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd â’r argymhellion hyn.