Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu : Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

01/03/2023

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202201815

Math o Adroddiad

Rhoddwyd y gorau i ymchwilio'r gŵyn (heb setliad)

Corff Perthnasol

Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Miss A fod y Feddygfa Meddyg Teulu wedi methu gweithredu ar adroddiadau ei diweddar dad (Mr A) (dros gyfnod o tua 5 mlynedd) am broblemau llyncu a monitro polypau a oedd ganddo.

Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwiliad, fodd bynnag, ar ôl adolygu’r cofnodion a gafwyd gan y Feddygfa Meddygon Teulu, canfuwyd nad oedd unrhyw adroddiadau wedi’u cofnodi am unrhyw broblemau’n ymwneud â llyncu y tu hwnt i un ymgynghoriad ym mis Gorffennaf 2016 lle’r oedd Mr A wedi adrodd ei fod wedi pesychu wrth lyncu. Ar yr achlysur hwn, cyfeiriwyd Mr A ar unwaith at arbenigwyr mewn gofal eilaidd i ymchwilio iddynt. Nid oedd yr ymchwiliadau a gynhaliwyd yn dangos bod polypau wedi cael eu canfod a chafodd Mr A ei ryddhau’n ddiweddarach i ofal y Feddygfa Meddygon Teulu, ac ar ôl hynny ni chofnodwyd unrhyw adroddiadau pellach am broblemau tebyg yn y cofnodion. O ganlyniad, ar sail y diffyg tystiolaeth ddogfennol hon, daeth yr ymchwiliad i ben gan nad oedd fawr ddim pellach y gellid ei gyflawni drwy gynnal ymchwiliad parhaus i’r mater.

Yn ôl