21/03/2023
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Datrys yn gynnar
202205183
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Mrs X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn briodol i’w chŵyn am ofal ei merch tra’r oedd yn glaf mewnol yn Ysbyty Glan Clwyd yn 2021. Dywedodd ei bod hi a’i mab yng nghyfraith wedi gwneud cwynion ar wahân am wahanol agweddau ar ei gofal. Cyfeiriodd at anghysonderau yn yr ymatebion a ddarparwyd, a chwynodd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb ar wahân i’r materion ychwanegol yr oedd hi a’i mab yng nghyfraith wedi’u codi. Yn hytrach, roedd wedi cyhoeddi un ymateb arall ar y cyd i’w mab yng nghyfraith ar 23 Awst 2022.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ei bod yn ymddangos bod agweddau ar y gŵyn nad oeddent wedi cael eu hateb. Felly, fe wnaethom gysylltu â’r Bwrdd Iechyd ynghylch hyn.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai’n sicrhau’r canlynol:
• darparu rhagor o ymatebion ar wahân i gŵyn Mrs X a’i mab-yng-nghyfraith, yn ymwneud â’r materion gofal a godwyd yn eu cwynion. Mae hyn yn cynnwys y materion ychwanegol a godwyd gan Mrs X (ar wahân) mewn gohebiaeth bellach ym mis Rhagfyr 2021.
Ym marn yr Ombwdsmon, roedd y camau uchod yn rhesymol i setlo’r gŵyn ar y pryd.