Dewis eich iaith
Cau

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (heb fod yn ymwneud â thai) : Cyngor Caerdydd

Dyddiad yr Adroddiad

21/04/2023

Pwnc

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (heb fod yn ymwneud â thai)

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202207992

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Caerdydd

Cwynodd Ms C fod Cyngor Caerdydd wedi methu ag egluro pam ei fod yn teimlo ei bod yn briodol cartrefu troseddwr rhyw a gafwyd yn euog ar draws y coridor iddi hi, a hithau’n fam sengl gyda merch ifanc.

Canfu’r Ombwdsmon mai Heddlu De Cymru, yn hytrach na’r Cyngor, oedd wedi asesu’r eiddo ac wedi ystyried ei fod yn addas i’r troseddwr. Daeth i’r casgliad na chafodd y wybodaeth hon ei chyfleu i Ms C a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad a chytunodd y Cyngor â chais yr Ombwdsmon i ysgrifennu at Ms C, o fewn pythefnos, gan ymddiheuro am beidio â chyfathrebu gwybodaeth hanfodol ac egluro pwy oedd yn gyfrifol am drefnu llety i droseddwyr.

Yn ôl