17/05/2023
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202200415
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Mrs Y am y driniaeth a roddwyd i’w gŵr, Mr Y, gan Bractis Meddyg Teulu (“y Practis”) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) rhwng Medi 2019 a Mai 2021. Yn benodol, cwynodd Mrs Y am y ffordd y cafodd briwiau agored Mr Y eu rheoli gan y Practis, atgyfeiriadau ar gyfer mewnbwn arbenigol (gan gynnwys Dermatoleg a Chardioleg), adolygiadau o feddyginiaeth i’r modd yr ymdriniwyd â chwynion.
Canfu’r Ombwdsmon bod y ffordd y cafodd briwiau agored Mr Y eu rheoli gan y Practis, yr atgyfeiriad i’r gwasanaeth Dermatoleg, cysylltu â’r Adran Gardioleg, a monitro ac adolygu meddyginiaeth Mr Y, yn briodol yn yr amgylchiadau. Yn unol â hynny, ni chadarnhawyd cwyn Mrs Y.
Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon nad oedd cynnwys ymatebion y Practis i’w cwynion wedi bod yn ddigonol i fynd i’r afael â phryder Mrs Y ac nad oeddent yn unol â’r Rheoliadau PTR. Roedd methiant y Practis i fynd i’r afael yn ddigonol â phryderon Mrs Y yn cynrychioli anghyfiawnder ac yn unol â hynny, cadarnhawyd yr agwedd hon o gŵyn Mrs Y.
Argymhellodd yr Ombwdsmon i’r Practis drefnu i ddarparu hyfforddiant ar ddelio â chwynion i’w staff gan y Bwrdd Iechyd.