26/05/2023
Materion rhestr glaf
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202203723
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Mrs B, ar ran ei brawd Mr A, ynglŷn â’r oedi afresymol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) cyn trin Mr A am ganser y colon a’r rhefr. Dywedodd Mrs B bod y Bwrdd Iechyd wedi methu hysbysu Mr A bod ei lawdriniaeth a gynlluniwyd wedi’i chanslo ac ni wnaethant ail-drefnu’r llawdriniaeth nes iddynt gael eu hysgogi i wneud hynny drwy alwadau ffôn a chwyn gan y teulu. Dywedodd Mrs B bod y Bwrdd Iechyd hefyd wedi methu cynnal llawdriniaeth Mr A o fewn amserlen briodol, gan achosi i’r clefyd ddatblygu a chanlyniad llai sicr.
Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi methu trefnu llawdriniaeth a’u bod ond wedi gwneud hynny 5 wythnos ar ôl anogaeth gan Mr A. Arweiniodd hyn at oedi y gellid bod wedi’i osgoi ac nid oedd hyn yn cyflawni’r canllawiau Llwybr Cenedlaethol ar gyfer canser y colon a’r rhefr. Fe achosodd hyn drafferth a gofid sylweddol i Mr A. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y gofal a dderbyniodd Mr A, yn nhermau ail-drefnu ei lawdriniaeth, wedi cyflawni safon briodol a chadarnhaodd yr agweddau hynny o’r gŵyn. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn bod yr oedi wedi achosi prognosis llai sicr gan fod tystiolaeth o hyn yn aneglur.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr A ac i Mrs B am y methiannau a nodwyd wrth drefnu’r llawdriniaeth a’r oedi a achoswyd. Argymhellodd hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd gwblhau archwiliad o broses a rheolaethau presennol trefnu llawdriniaethau’r colon a’r rhefr.
Os na chanfyddir ei bod yn gadarn, dylid rhoi cynllun ar waith i gau unrhyw fylchau a nodwyd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi’r argymhellion hyn ar waith.