04/05/2023
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu
Ni Chadarnhawyd
202205652
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau
Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cwynodd Ms A am yr oedi cyn y derbyniodd ei chwaer ddiagnosis o ganser oesoffagaidd a arweiniodd yn anffodus at ei marwolaeth. Er gwaethaf ymweliadau niferus i’r Practis gan gwyno am boen, roedd yn bryderus bod ei chwaer wedi derbyn diagnosis o ganser yn llawer rhy hwyr i ddarparu a rheoli unrhyw driniaeth effeithiol. Roedd o’r farn y bu cyfranogiad annigonol gan feddyg teulu ac roedd yn bryderus ynghylch ymdrechion y Practis i drefnu ymchwiliadau radiolegol. Cwynodd Ms A, hyd yn oed pan gyflwynodd ei chwaer ei hun ym mis Ionawr 2022 gydag anawsterau llyncu a’i bod wedi colli swm sylweddol o bwysau, ni ddaeth meddyg yn gysylltiedig â’i gofal.
Canfu’r ymchwiliad bod y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan y Practis wedi bod yn briodol, a oedd wedi cynnwys mewnbwn gweithwyr gofal iechyd proffesiynol nad oeddent yn feddygon teulu. Er y gallai’r cyflwyniad ym mis Ionawr 2022 fod wedi arwain at atgyfeiriad cynharach o ganser a amheuir, nid oedd hyn wedi’i wneud o ganlyniad i ofal amhriodol ar ran y Practis. Felly ni chadarnhawyd y gŵyn.