15/05/2023
Gwasanaethau Cymdeithasol Plant
Datrys yn gynnar
202207873
Datrys yn gynnar
Cyngor Sir Powys
Cwynodd Mr B i Gyngor Sir Powys ar ran ei gleient, Mr C, ynglŷn â’i Wasanaethau Cymdeithasol a’i Adran Gyfreithiol, ac yn benodol eu diffyg ymateb i ohebiaeth a oedd wedi rhwystro’r gwaith o baratoi achos Mr C mewn perthynas ag achosion gofal. Derbyniodd Mr B 2 ymateb i’w gwynion gan y Cyngor, a oedd yn datgan na chadarnhawyd ei gwynion. Cwynodd Mr B i’r Ombwdsmon am y modd yr ymdriniwyd â’i gwynion a chywirdeb a chynnwys ymatebion y Cyngor.
Canfu’r Ombwdsmon bod heriau Mr B i ymatebion y Cyngor i’w gŵyn yn ymddangos yn ddilys. Roedd enghraifft o hyn yn cynnwys casgliad y Cyngor nad oedd wedi methu ymateb i’w ohebiaeth, pan ddywedodd Mr B bod ganddo dystiolaeth o tua 27 neges e-bost heb ymateb iddynt. Roedd o’r farn y byddai wedi bod yn rhesymol i’r Cyngor ddarparu ymateb llawn i heriau Mr B.
I ddatrys cwyn Mr B, cytunodd y Cyngor i ddarparu ymateb ysgrifenedig pellach iddo a oedd yn mynd i’r afael yn benodol â’r heriau / sylwadau a godwyd ganddo yn ei gyflwyniad i’r Ombwdsmon mewn perthynas â chywirdeb 2 ymateb y Cyngor i’r gŵyn. Yn ogystal, cytunodd y Cyngor i ddarparu ymateb ysgrifenedig i Mr B, yn mynd i’r afael â materion a oedd wedi codi ers darparu ei ail ymateb i’r gŵyn.