Dewis eich iaith
Cau

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl) : Tai Tarian

Dyddiad yr Adroddiad

10/05/2023

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202300409

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Tai Tarian

Cwynodd Ms A bod Tai Tarian wedi methu datrys y broblem roedd yn ei phrofi, sef bod dŵr yn dod i mewn i’w heiddo a’u bod wedi methu ymateb yn ffurfiol i’w chwyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er gwaethaf rhai ymdrechion i ddatrys y broblem ddŵr, bu oedi cyn i’r Gymdeithas ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn ac roedd hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Hysbyswyd yr Ombwdsmon bod y Gymdeithas yn bwriadu cynnal arolwg o’r tŷ ac felly gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Gymdeithas i ddarparu ymateb i Ms A i’w chwyn sy’n cynnwys esboniad o’r gwaith sydd wedi’i gwblhau ac amserlen o’r gwaith i’w wneud yn y dyfodol, o fewn 4 wythnos ar ôl cwblhau’r arolwg.

Yn ôl