17/05/2023
Iechyd Meddwl Oedolion
Datrys yn gynnar
202300557
Datrys yn gynnar
Brwdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cwynodd Ms L bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe wedi methu mynd i’r afael â’i phryderon ynglŷn ag iechyd meddwl. Cwynodd Ms L ymhellach, er iddi godi pryderon ym mis Rhagfyr 2022, nad oedd wedi cael ymateb eto.
Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi methu gweithredu yn unol â’i weithdrefn cwynion statudol ac wedi methu darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms L ar ei ymchwiliad. Dywedodd fod hyn wedi achosi mwy o rwystredigaeth i Ms L a daeth i’r casgliad bod y cwynion wedi’u trin yn wael.
Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i gwrdd â Ms L, darparu ymateb i’w chwyn, a gwneud taliad ex gratia o £250 am ddelio’n wael â chwynion, o fewn 3 mis.