Dewis eich iaith
Cau

Dyletswydd i gynnal y gyfraith : Cyngor Cymuned St Harmon

Dyddiad yr Adroddiad

31/03/2023

Pwnc

COD - Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Canlyniad

COD

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202106161

Math o Adroddiad

COD - Cyfeiriwyd at Banel Dyfarnu

Corff Perthnasol

Cyngor Cymuned St Harmon

Derbyniodd swyddfa’r Ombwdsmon gŵyn bod cyn aelod (“y Cyn Aelod”) o Gyngor Cymuned Llanarmon (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.  Honnwyd bod y Cyn-Aelod wedi rhoi gwybodaeth ffug i Archwilio Cymru.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y Cyn Aelod wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol y Cod Ymddygiad:

  • 6(1)(a) – Rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu awdurdod.
  • 7(a) – Rhaid i aelodau beidio â, yn eu capasiti swyddogol neu fel arall, defnyddio neu geisio defnyddio eu safle yn amhriodol i roi neu i sicrhau mantais i’w hunain neu i unrhyw berson arall, neu i greu neu i osgoi anfantais i’w hunain neu i unrhyw berson arall.

Ystyriodd yr ymchwiliad dystiolaeth ddogfennol a gafwyd gan Archwilio Cymru a chafwyd adroddiad tyst gan gyn Glerc y Cyngor.  Cyfwelwyd y Cyn Aelod a gwadodd ei fod wedi rhoi gwybodaeth ffug i Archwilio Cymru.

Canfu’r ymchwiliad fod ymddygiad y Cyn Aelod yn awgrymu torri paragraffau 6(1)(a) a 7(a), 11(1) o’r Cod Ymddygiad.

Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru i’w dyfarnu gan dribiwnlys.

Daeth y Tribiwnlys i’r casgliad bod y Cyn Aelod wedi torri paragraffau 6(1)(a) a 7(a) o’r Cod Ymddygiad drwy roi gwybodaeth ffug i Archwilio Cymru.  Yn unol â hynny, penderfynodd y Tribiwnlys y dylai’r Cyn Aelod gael ei anghymhwyso am 15 mis rhag bod neu ddod yn aelod o’r awdurdod neu o unrhyw awdurdod perthnasol arall.

Yn ôl