21/06/2023
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202101266
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cwynodd Mrs A am ei thriniaeth gynaecoleg yn Ysbyty Glangwili ar ôl iddi ddatblygu symptomau o waedu ar ôl y menopos yn 2019. Cafodd ddiagnosis o ganser endometriaidd y flwyddyn ganlynol.
Canfu’r Ombwdsmon y dylai gwaedu parhaus ar ôl y menopos gyda chefndir o hyperplasia endometriaidd fod wedi ysgogi trafodaeth a chynnig o lawdriniaeth hysterectomi yn unol â chanllawiau clinigol (RCOG 67) yn 2019. Gallai hyn felly fod wedi effeithio ar ganlyniad clinigol Mrs A. Bu oedi hefyd wrth drin yr anemia diffyg haearn dilynol a oedd arni.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd â’r argymhellion canlynol:
• Ymddiheuriad ysgrifenedig i Mrs A am y methiannau a nodwyd.
• Taliad iawndal i Mrs A mewn perthynas â’r oedi wrth drin yr anaemia diffyg haearn.
• Y dylid gwahodd Mrs A i fod yn rhan o’r broses gwneud iawn Gweithio i Wella mewn perthynas â’r methiant i gynnig triniaeth briodol iddi ar gyfer ei gwaedu parhaus ar ôl y menopos.
• Y dylid rhannu canfyddiadau’r ymchwiliad hwn mewn fforwm Oncoleg Gynaecolegol priodol i feddygon ymgynghorol er mwyn sicrhau dysgu ehangach o’r gŵyn, gan nodi’n benodol y gofynion i gadw cofnodion ynghylch cwnsela ar gyfer triniaeth a chywirdeb y derminoleg a ddefnyddir yn y cofnodion.