30/06/2023
Iechyd
Datrys yn gynnar
202300634
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Ms K nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i gŵyn ynghylch y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar fam. Dywedodd Ms K fod y berthynas agosaf wedi rhoi cydsyniad dros y ffôn i’r Bwrdd Iechyd ar y diwrnod yr aeth i gyfarfod i drafod ei phryderon.
Dywedodd Ms K fod y berthynas agosaf wedi rhoi cydsyniad, ond dywedodd y Bwrdd Iechyd nad oedd wedi cael y cydsyniad hwn. Nid yw’r Ombwdsmon wedi gallu cysoni’r hanesion gwahanol mewn ffordd a fyddai’n caniatáu iddi ddod i gasgliad pendant. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi bod yn glir ynghylch y mater cydsynio drwy gydol ei drafodion â Ms K. Cyn i Ms K ddod i’r cyfarfod, roedd wedi cael gwybod bod ei chŵyn wedi cael ei chau oherwydd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cael y cydsyniad angenrheidiol gan y berthynas agosaf. Yn dilyn hynny, dywedwyd yn anghywir wrth Ms K ar ôl y cyfarfod y byddai ymateb i gŵyn yn cael ei ddarparu ac nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gwybod i Ms K na fyddai ymateb yn cael ei ddarparu ar ôl sylweddoli ei wall. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms K. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms K am y dryswch, a chytunodd i ymateb i’r gŵyn os ceir y cydsyniad angenrheidiol o fewn pythefnos.