10/08/2023
Iechyd
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202107758
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Cwynodd Miss P am amgylchiadau ei hatgyfeirio am driniaeth ar gyfer Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (“EMDR” – seicotherapi cynhwysfawr sy’n helpu claf i brosesu ac adfer ar ôl profiadau’r gorffennol sy’n effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u lles) ym mis Mai a mis Medi 2019, a holodd p’un a oeddent yn gwrthod triniaeth. Cwynodd hefyd am y modd yr ymdriniwyd â’i chŵyn, yn benodol, p’un a oedd gwrthdaro buddiannau gyda’r swyddog ymchwilio. Cwynodd Miss P hefyd am brydlondeb ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn a’r ffaith nad oedd wedi cyfathrebu â hi ynghylch ei broses gwneud iawn.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd gan y Bwrdd Iechyd unrhyw gofnod o atgyfeiriad cyntaf Miss P ar gyfer EMDR, unrhyw drafodaethau am yr atgyfeiriad, nac am roi gwybod i Miss P am y canlyniad. Roedd hyn yn achos o gamweinyddu a gwnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r rhan hon o’r gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Miss P o fewn cyfnod rhesymol, ac nad oedd gwrthdaro buddiannau, cymerodd lawer gormod o amser i ystyried a oedd angen gwneud iawn â Miss P ac ni chafodd ei diweddaru yn unol â’r canllawiau ar gyfer delio â chwynion. Roedd hyn hefyd yn achos o gamweinyddu a gwnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r rhan hon o’r gŵyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Miss P, yn talu swm bach o iawndal ariannol iddi, ac yn cymryd camau pellach i sicrhau nad yw’r un methiannau’n digwydd eto. Cytunodd y Bwrdd Iechyd â’r argymhellion hyn.