07/09/2023
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Ni Chadarnhawyd
202203156
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei merch, Miss B, gan Wasanaeth Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”). Yn yr ymchwiliad, ystyriwyd a oedd y gofal a gafodd Miss B rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Medi 2021 (yn y gymuned ac fel claf mewnol) at ei gilydd, yn briodol, a ystyriwyd awtistiaeth Miss B, ac a wnaed addasiadau ar gyfer hyn o ran y ffordd roedd pobl yn gweithio/yn cyfathrebu â hi ac a oedd rhyddhau Miss B o’r ysbyty ym mis Medi 2021 heb wneud trefniadau ar gyfer llety, yn briodol.
Canfu’r Ombwdsmon bod y gofal a’r driniaeth a gafodd Miss B rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Medi 2021 yn briodol yn glinigol. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.