29/09/2023
Iechyd Meddwl Oedolion
Datrys yn gynnar
202304325
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Miss D am y gofal a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng nghyswllt ei llesiant a’i hiechyd meddwl, yn benodol yng nghyd-destun ei diagnosis o Anhwylder Niwrolegol Gweithredol (“FND”). Dywedodd Miss D nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ceisio deall ei diagnosis nac wedi darparu mynediad priodol at ymyriadau seicolegol iddi. Nid oedd chwaith wedi rhoi cymorth iechyd meddwl mewn argyfwng na chymorth iechyd meddwl parhaus iddi.
Cadarnhaodd adroddiad y Bwrdd Iechyd ar yr ymchwiliad ar 23 Mai 2023 ei fod wedi methu darparu mynediad at fewnbwn seicolegol iddi a bod problemau staffio wedi golygu bod y gofal a gafodd wedi bod yn ddi-drefn ac yn is na’r safon briodol. Ysgrifennodd y Bwrdd Iechyd at Miss D ar 23 Mehefin i ymddiheuro am y diffygion hynny; nododd fod Miss D bellach yn cael cymorth ac ymyriadau seicolegol priodol ac y byddai’r gŵyn yn cael ei rhannu â’r staff yn ddienw at ddibenion dysgu. Dywedodd Miss D fod arni eisiau gweld manylion y camau y bwriadwyd eu cymryd (neu a oedd wedi cael eu cymryd) i atal hyn rhag digwydd eto, yn enwedig o ran diffygion staffio, argaeledd cymorth a gwasanaethau, cyfathrebu â chleifion a deall FND o safbwynt iechyd meddwl.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y canlynol o fewn 6 wythnos i hysbysiad o benderfyniad terfynol yr Ombwdsmon:
• Cyhoeddi nodyn atgoffa ffurfiol i’r holl staff perthnasol ynghylch pwysigrwydd sicrhau cyfathrebu effeithiol a chyson â chleifion.
• Drafftio hysbysiad i’w gynnwys gyda’r gŵyn ddienw yn tynnu sylw at bwysigrwydd sefydlu natur unrhyw fewnbwn gan arbenigwyr eraill perthnasol oedd yn ymwneud â gofal claf i sicrhau bod anghenion y claf yn cael eu diwallu.
• Rhoi amlinelliad o’r camau sydd wedi cael eu cymryd i wella staffio o fewn yr adran a chadarnhau capasiti cyfredol y staff.
• Ystyried a oedd angen i Staff Iechyd Meddwl gael hyfforddiant ffurfiol am FND.
• Ysgrifennu at Miss D yn ymddiheuro unwaith eto am yr anghysonderau a’r diffygion yn y gofal a ddarparwyd, rhoi manylion ynghylch sut mae’r camau uchod wedi cael eu cyflawni a nodi unrhyw ganlyniadau cadarnhaol sydd wedi deillio o’r rhain.