19/10/2023
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202201195
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Roedd Ms A, eiriolwr annibynnol o Llais Cymru, wedi helpu Mrs B i gwyno am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar ŵr, Mr B, pan aeth i Ysbyty Tywysoges Cymru yn 2022. Roedd yr ymchwiliad yn ystyried a roddwyd Mr B ar ward briodol ar ôl iddo gael ei dderbyn drwy’r Adran Achosion Brys (“yr Adran Achosion Brys”) ac a ddylai Mr B fod wedi cael ei drosglwyddo i ward sy’n arbenigo mewn gofal iechyd meddwl ar unrhyw adeg yn ystod ei arhosiad. Roedd hefyd yn ystyried a gafodd Mr B ormod o feddyginiaeth gyda thawelyddion yn ystod ei arhosiad ar y ward gychwynnol y cafodd ei dderbyn iddi (“y Ward Gyntaf”) ac a gafodd urddas Mr B ei gadw yn ystod ei gyfnod ar y Ward Gyntaf.
Canfu’r ymchwiliad na chafodd Mr B ei dderbyn i ward briodol o’r Adran Achosion Brys. Cadarnhawyd y gŵyn hon. Canfu’r ymchwiliad fod Mr B wedi cael ei drosglwyddo’n briodol i ail ward ac, oherwydd ei fod wedi dal COVID-19, yn anffodus roedd yn briodol iddo aros ar y ward hon. Ni chadarnhawyd y gŵyn hon. Canfu’r ymchwiliad hefyd nad oedd mesurau diogelu priodol ar waith i amddiffyn Mr B pan oedd staff yn rhoi pigiadau mewngyhyrol (“IM”) ac nad oedd digon o dystiolaeth bod urddas Mr B yn cael ei gynnal ar y Ward Gyntaf. Cafodd y cwynion hyn eu cadarnhau hefyd.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs B am y methiannau a nodwyd, rhannu canfyddiadau’r ymchwiliad â chlinigwyr perthnasol, a darparu tystiolaeth o hyfforddiant i staff perthnasol ar y Ward Gyntaf yng nghyswllt rhoi pigiadau IM, cysylltu â gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol a sicrhau bod mesurau diogelu ar waith i ddiogelu hawliau cleifion. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ddarparu tystiolaeth o bolisi wedi’i ddiweddaru yng nghyswllt pigiadau IM sy’n ystyried lleoliadau Iechyd Meddwl a lleoliadau nad ydynt yn rhai Iechyd Meddwl.