14/12/2023
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202202202
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cwynodd Ms A am y gofal a gafodd gan y Bwrdd Iechyd wrth roi genedigaeth i’w babi. Roedd hyn yn cynnwys: dim bwyd a diod na phresenoldeb bydwraig yn ystod yr esgor; diffyg gofal bydwraig ar ôl y geni; pa mor hir y bu Ms A yn aros am archwiliad obstetraidd a’r modd y rheolwyd prosesau cydsynio ar gyfer epistiotomi a defnyddio gefel i gynorthwyo’r geni.
Canfu’r ymchwiliad fod y rhan fwyaf o ofal Ms A yn briodol, gan gynnwys presenoldeb bydwraig yn ystod yr esgor; gofal bydwraig ar ôl y geni; pa mor hir y bu Ms A yn aros am archwiliad Obstetraidd a’r prosesau cydsynio ar gyfer episiotomi a defnyddio gefel. Ni chadarnhawyd yr agweddau hyn ar y gŵyn. Fodd bynnag, dylai’r Bwrdd Iechyd fod wedi hysbysu ac annog Ms A ynglŷn â bwyta ac yfed yn ystod y cyfnod esgor, yn unol â chanllawiau a safonau cenedlaethol. Dylai’r Bwrdd Iechyd hefyd fod wedi darparu gwybodaeth i Ms A, a rhoi llais iddi, mewn penderfyniadau ynglŷn â’r cynllun gofal yn ystod ail gam ei chyfnod esgor gweithredol. Cadarnhawyd yr elfennau hyn o’r gŵyn. Nododd yr ymchwiliad fod y rhain yn ddiffygion gofal a wnaeth gam â Ms A, sef yn benodol, gorflinder yn deillio o ddiffyg egni yn ystod esgor; pryder ac ansicrwydd am gynnydd ei hesgor oherwydd hyn; a dadrymuso, pryder ac ansicrwydd am nad oedd wedi cael y wybodaeth lawn nac wedi cael bod yn rhan o’i chynllun gofal yn ystod ail gam yr esgor.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms A am y methiannau a nodwyd; dylai hefyd atgoffa’r staff perthnasol am bwysigrwydd safonau a chanllawiau perthnasol; a chynnal archwiliad enghreifftiol o gofnodion yn y maes gwasanaeth i ganfod a mynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion mewn ymarfer sy’n gysylltiedig â’r methiannau a nodwyd. Derbyniwyd yr argymhellion gan y Bwrdd Iechyd.