15/12/2023
Gwasanaethau Ambiwlans
Ni Chadarnhawyd
202300872
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau
Gwasanaethau Ambiwlans: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Ymchwiliwyd i gŵyn a wnaed gan Ms B, ar ran ei thad Mr A, nad oedd y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan barafeddygon ar 31 Hydref 2022 wedi cyrraedd safon briodol. Yn benodol, cwynodd Ms B fod y penderfyniad i beidio mynd â Mr A i’r ysbyty mewn ambiwlans fel achos brys wedi effeithio’n andwyol ar yr ymchwiliad a gafodd a’r driniaeth a roddwyd i haint.
Canfu’r Ombwdsmon fod y gofal a’r driniaeth a gafodd Mr A gan barafeddygon ar 31 Hydref yn dderbyniol. Er bod Mr A yn sâl, ar sail yr asesiadau a’r arsylwadau a wnaed gan barafeddygon penderfynwyd yn briodol nad oedd angen cymorth brys arno. Ar ôl gwirio gyda meddyg teulu Mr A, cadarnhaodd parafeddygon y dylai Mr A ddal i fynd i’r ysbyty’r diwrnod hwnnw am brofion gwaed i ymchwilio ymhellach i’w symtomau ond, gan nad oedd yn sefyllfa o argyfwng, nad oedd angen cludiant ambiwlans brys arno i hwyluso hynny. Cyflwynodd Mr A ei hun i’r ysbyty y diwrnod canlynol gyda’r un symtomau a chofnodwyd arsylwadau tebyg (i’r rhai a wnaed gan y parafeddygon y diwrnod cynt). Ni chanfuwyd fod y penderfyniad i beidio cludo Mr A mewn ambiwlans brys wedi cael effaith niweidiol iddo. O ganlyniad, ni chadarnhawyd y gŵyn.