08/12/2023
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Datrys yn gynnar
202304350
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Mr A am ei fod yn anhapus gyda’r driniaeth a gafodd ei wraig gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn sgil rhwyg yn ei phledren a ddigwyddodd yn ystod llawdriniaeth a’r driniaeth a’r gofal dilynol a gafodd am y diagnosis o ganser yr ofari.
O ran y pryder ynghylch pledren rwygedig Mrs A, nododd yr Ombwdsmon fod hyn yn gymhlethdod cyffredin gyda’r llawdriniaeth yma. Trafodwyd y risgiau’n briodol gyda Mrs A cyn y llawdriniaeth, ac roedd y ffurflen ganiatâd wedi’i llofnodi yn dyst i hynny. Ar y sail honno, canfu’r Ombwdsmon nad oedd modd cyflawni dim byd mwy. Ond fe ganfu’r Ombwdsmon hefyd nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn Mr A yn ateb pob un o’i bryderon yn ddigonol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb pellach i gŵyn Mr A gan ddelio â’i bryderon, a hynny o fewn 20 diwrnod gwaith.