14/12/2023
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Datrys yn gynnar
202304915
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w bartner, Ms D, mewn perthynas â hysterectomi laparosgopig. Er i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r gŵyn wreiddiol, achosodd hynny i fwy o gwestiynau gael eu codi ynghylch problemau wrth drin Ms D, ei rhyddhau a chyfathrebu â hi. Felly anfonodd Mr A ail lythyr. Ond ar yr adeg pan wnaeth ei gŵyn i’r Ombwdsmon, nid oedd wedi derbyn ymateb.
Testun pryder i’r Ombwdsmon oedd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r cwestiynau pellach a godwyd gan Mr A, a barnodd y byddai’n fuddiol iddo gael ymateb. Yn hytrach nag ymchwilio i’r gŵyn, gwnaeth yr Ombwdsmon argymhelliad y cytunodd y Bwrdd Iechyd i’w weithredu.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb i ail lythyr Mr A o fewn 20 diwrnod gwaith.