05/12/2023
Materion rhestr glaf
Datrys yn gynnar
202306140
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Cwynodd Mr X am orfod aros yn hir am driniaeth lawfeddygol ar y colon a’r rhefr. Testun pryder penodol iddo oedd fod y Bwrdd Iechyd wedi datgan (yn dilyn cwyn flaenorol a wnaed yn 2022) y byddai’r llawdriniaeth yma’n digwydd ym mis Medi 2022 a’i fod, er iddo gael asesiad cyn llawdriniaeth yn 2023, yn dal i aros. Roedd wedi cysylltu â’r Bwrdd Iechyd oedd wedi dweud y byddai’r llawdriniaeth nawr yn digwydd y flwyddyn nesaf. Roedd yn teimlo bod ei achos yn cael ei anwybyddu.
Nododd yr Ombwdsmon fod Mr X yn ei gŵyn wedi cyfeirio at faterion a oedd wedi digwydd ers ymateb blaenorol y Bwrdd Iechyd i’w gŵyn yn 2022. Nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r rhain yn ffurfiol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd felly i ddarparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol i gŵyn Mr X o fewn 10 diwrnod gwaith. Nodwyd hefyd fod apwyntiad gydag ymgynghorydd wedi ei drefnu bellach i adolygu achos Mr X.