Dewis eich iaith
Cau


Nodi y swydd rydych chi’ngwneud cais amdano:

CYFRINACHOL

 

Manylion Personol

Hanes Cyflogaeth

Yn yr adran hon, dywedwch wrthym am hanes eich cyflogaeth yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.

Cyflogwr Presennol

Cyflogaeth Flaenorol

Rhestrwch eich cyflogaeth flaenorol, gan gynnwys enw’r sefydliad, dyddiadau o/i, teitl swydd a chyfrifoldebau, ac eich rheswm dros adael, gan ddechrau gyda’r diweddaraf.

Eich Sgiliau (dim mwy na 1000 gair)

Mae’r Ombwdsmon wedi ymrwymo i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae manylion y Disgrifiad Swydd a Manyleb y  Person wedi cael eu hanfon atoch gyda’r ffurflen gais hon.  Defnyddiwch y wybodaeth hon i ddweud wrthym yn yr adran hon sut bydd eich sgiliau, eich profiad a’ch cyflawniadau yn eich helpu i gyfrannu yn y swydd hon at amcan yr Ombwdsmon.

Cymwysterau

Gan ddechrau gyda’r mwyaf diweddar, rhestrwch eich cymwysterau, eich addysg a’ch aelodaeth o sefydliadau proffesiynol.

Addysg

Rhestrwch ddyddiadau, enw’r ysgol/coleg/prifysgol, Cwrs astudio / Cymwysterau & Graddau a gyflawnwyd.

Hyfforddiant

Rhestrwch ddyddiadau, Corff hyfforddi, Cwrs astudio a chymwysterau a gyflawnwyd os yn berthnasol

Aelodaeth Broffesiynol

Rhestrwch aelodaeth o sefydliadau proffesiynol, gan gynnwys enw’r sefydliad, lefel aelodaeth, a dyddiadau o/i

Geirdaon

Rhowch enw a manylion cyswllt dau ganolwr. Mae angen i chi roi eich cyflogwr presennol fel un ohonynt. Cysylltir â’r canolwyr ar ôl i chi gael cynnig swydd ac mae gan yr Ombwdsmon yr hawl i gysylltu ag unrhyw un neu bob un o’ch holl gyflogwyr blaenorol i gael geirdaon ychwanegol os yw’n teimlo bod hynny’n briodol.

Canolwr 1

Canolwr 2

Euogfarnau Troseddol

Os ydych chi, rhowch fanylion mewn amlen ar wahân wedi’i selio ac wedi’i marcio’n glir â’ch enw.

Sgiliau Iaith Gymraeg

Os ydych chi, sut fyddech chi’n asesu lefel eich gallu mewn perthynas â’r canlynol?

Os mai “ydw” oedd eich ateb, bydd eich sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu profi os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cael eich asesu a chael cyfweliad.

Gallu gyrru

Contract Parhaol neu Gyfnod Penodol

Os byddwch yn cael cynnig swydd gyda swyddfa’r Ombwdsmon, oes gennych chi ddiddordeb mewn:

Diogelu Data

Yn unol â Deddf Diogelu Data 1998, ni ddylai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gadw gwybodaeth bersonol am amser hirach nag sy’n angenrheidiol. Bydd pob cais aflwyddiannus yn cael ei gadw am 12 mis ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

Caiff hysbysiad o benderfyniad y Panel Recriwtio a’r prif fatrics eu dinistrio hefyd ar ôl 12 mis. Bydd nodiadau unigol, dalennau matrics a dalennau sgorio’r Panel Recriwtio’n cael eu dinistrio ar ddiwedd y broses gyfweld.

Bydd manylion yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael eu trosglwyddo i’w ffeil personél.

Caniatâd a Datganiad

At ddibenion Deddf Diogelu Data 1998, rwyf yn rhoi caniatâd i’r wybodaeth sydd yn y cais hwn, ac mewn unrhyw ddogfennau eraill sy’n cefnogi’r cais, gael ei phrosesu at ddibenion y broses recriwtio.

Rwyf yn datgan bod y wybodaeth yr wyf wedi’i rhoi yn y cais hwn yn wir ac yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth, ac rwyf yn deall y gall unrhyw ddatganiadau ffug neu gamarweiniol a wneir ar y ffurflen hon, os dônt i’r fei yn ddiweddarach, olygu na fyddaf i’n gymwys i gael fy nghyflogi neu y byddaf yn cael fy niswyddo ar ôl i mi gychwyn gweithio.

Monitro Cyfleoedd Cyfartal

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ceisio sicrhau bod pobl sy’n defnyddio’i wasanaeth, neu sy’n cael eu cyflogi ganddo, yn cael eu trin yn gyfartal ac nad yw’n gwahaniaethu’n anfwriadol yn erbyn aelodau unrhyw grŵp penodol mewn cymdeithas. Er mwyn ein helpu ni i fonitro hyn, byddem yn ddiolchgar pe baech yn llenwi’r ffurflen hon ac yn ei dychwelyd. Os nad ydych yn gyfforddus yn ateb unrhyw gwestiwn penodol, dewiswch ‘Gwell gen i beidio dweud’. Nid yw hyn yn orfodol ac nid yw dychwelyd y ffurflen hon neu beidio’n rhan o’r broses recriwtio.

Yn ôl