Darllenwch y nodyn isod cyn clicio ar y dolen i’n holiadur boddhad cwsmeriaid.
I gymryd ei’n holiadur boddhad cwsmeriaid cliciwch yma
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i aelodau’r cyhoedd. Er mwyn ein helpu i ddeall ein perfformiad a sut y gallwn wella, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi lenwi ein holiadur Boddhad Cwsmeriaid.
Hoffem glywed am eich profiadau o ddefnyddio ein gwasanaethau. Pan yn briodol, gallwn ddefnyddio unrhyw sylwadau’n allanol ac yn gyhoeddus (er enghraifft, ar ddeunydd cyfathrebu). Oherwydd hyn, ni ddylech gynnwys unrhyw wybodaeth a fyddai’n galluogi neb i’ch adnabod chi, na’r sawl yr ydych yn llenwi’r ffurflen ar eu rhan, mewn unrhyw sylwadau.
Os byddwch yn cynnwys cyfeirnod eich cwyn, bydd modd i ni adnabod eich cwyn. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech wneud hyn gan y bydd yn ein helpu i wella ein gwasanaeth. Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd eich ymateb yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol ac na fydd yn cael ei weld gan unrhyw aelod o staff sy’n gyfrifol am asesu neu ymchwilio i’ch cwyn. Os bydd sylwadau’n cael eu defnyddio’n allanol neu’n gyhoeddus, byddwn yn sicrhau bod unrhyw wybodaeth a allai eich adnabod yn cael ei dileu cyn eu defnyddio.
Rydym yn defnyddio SurveyMonkey ar gyfer yr holiadur hwn. Fel rhan o’r gwasanaeth, bydd eich ymatebion yn cael eu trosglwyddo’n ddiogel i’r Unol Daleithiau o dan Fframwaith Tarian Diogelwch yr UEUDA ac yn cael eu cadw gan SurveyMonkey. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau Preifatrwydd a Chyfreithiol SurveyMonkey yma.
Ar ôl ei gael gan SurveyMonkey, byddwn yn cadw’r data am ddeng mlynedd o’r mis pan gafodd eich ymholiad neu’ch cwyn eu cau. Byddwn hefyd yn gofyn bod y data yn cael ei ddileu gan SurveyMonkey yn ystod y cyfnod cadw hwn. Ar ôl deng mlynedd, byddwn yn dileu unrhyw gysylltiadau i ganfod gwybodaeth o’n systemau. Yn ystod y cyfnod hwn bydd gennych hawl i ofyn am gael gweld eich data personol o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data. Mae gennych hawl hefyd i ofyn am gael cywiro data anghywir. Dylid anfon unrhyw geisiadau neu bryderon o’r fath at y Swyddog Diogelu Data yn y cyfeiriad isod. Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yw’r rheolydd data i ddibenion deddfwriaeth Diogelu Data. Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data, a sut i gwyno, ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn www.ico.org.uk.