Dewis eich iaith
Cau

Cynghorydd Clinigol (Sesiynol) £49.50 i £57.75 yr awr.

Rydym yn awyddus i ddod o hyd i nifer o gynghorwyr, ar sail sesiynol, i roi cyngor clinigol i’r Ombwdsmon.

Bydd y rheini sy’n cael eu dewis yn uwch glinigwyr profiadol yn eu maes a byddant yn gallu rhoi sylwadau awdurdodol ar y modd y mae gofal a thriniaeth wedi cael eu darparu. Mae profiad blaenorol o gynnal adolygiadau ac o ddarparu adroddiadau ysgrifenedig sy’n addas ar gyfer darllenwyr lleyg yn ddymunol. Mae’n bwysig bod ymgeiswyr yn gallu asesu gwybodaeth gymhleth a chynhwysfawr, gan feirniadu pan fydd angen a chynnig awgrymiadau ar sut i wella gwasanaeth.

Bydd y cynghorwyr sy’n rhoi cyngor i’r Ombwdsmon wedi ymgymryd ag ymarfer clinigol y GIG yn ystod y 12 mis diwethaf neu wedi cynnal arolwg neu ymgymryd â swyddogaeth reoleiddio mewn perthynas â’r GIG, ac mae’n rhaid iddynt fod yn aelodau llawn o gorff proffesiynol perthnasol.

Croesawir ceisiadau o’r arbenigeddau canlynol:

  • Ymgynghorwyr – Adran damweiniau ac achosion brys
  • Ymgynghorwyr – Anadlol
  • Ymgynghorwyr – Cardioleg
  • Ymgynghorwyr – Anestheteg / Gofal Dwys
  • Ymgynghorwyr – Llawfeddygon
  • Ambiwlans /Parafeddyg
  • Ymgynghorwyr – Obstetryddion & Gynaecolegol
  • Ymgynghorwyr – Y colon a’r rhefr
  • Ymgynghorwyr – Radiolegwyr
  • Bydwreigiaeth*
  • Ymgynghorwyr – Patholeg
  • Ymgynghorwyr – Pediatrig

(*Sylwch nad oes gennym unrhyw swyddi gwag ar gyfer Cynghorwyr Nyrsio ar hyn o bryd)

Ceir rhagor o fanylion ynghylch sut mae gwneud cais am rôl Cynghorydd gyda’r Ombwdsmon yn y ddogfen Nodiadau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb sydd ynghlwm. Byddwn yn dewis ar sail profiad a sgiliau perthnasol.

Mae’r Ombwdsmon wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.