Rydym yn gwybod bod llawer o aelodau’r cyhoedd yn pryderu am y ffordd y gwnaethant nhw, neu eu hanwyliaid, ddal COVID-19 wrth dderbyn gofal mewn lleoliadau GIG fel ysbytai. Caiff haint COVID-19 a gafodd ei ddal mewn lleoliad GIG ei alw’n COVID-19 ‘nosocomiaidd’.
Mae’r nodyn isod yn esbonio’n fras sut rydym yn ystyried cwynion am COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty.
Fodd bynnag, mae’r daflen ffeithiau hon yn ateb rhai cwestiynau cyffredin ynghylch sut mae’r GIG a’n swyddfa yn edrych ar gwynion am COVID-19 nosocomiaidd.
Mae’r nodyn hwn yn berthnasol i chi os:
Gallwch gwyno i ni os ydych yn anhapus gyda chanlyniad eich cwyn neu’r adolygiad o dan y Fframwaith Cenedlaethol. Mae’r nodyn hwn yn esbonio ein hymagwedd pan fyddwn yn ystyried pryderon o’r fath.
Cyn i ni allu ymchwilio i’ch cwyn, mae angen i ni fod yn siŵr:
Os gallwn edrych i’ch cwyn, gallwn argymell bod y Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd yn edrych ar eich achos o dan y Fframwaith Cenedlaethol er mwyn iddo gael ei ystyried yn deg o dan broses y GIG. Gallwch barhau i gwyno i ni yn ddiweddarach os ydych yn anhapus pan fydd yr adolygiad hwnnw wedi’i wneud.
Cyn i ni allu ymchwilio i’ch cwyn, mae angen i ni fod yn siŵr am ddau beth:
I ddefnyddio ein hadnoddau’n ddoeth a darparu gwasanaeth teg i bob un sy’n dod atom, weithiau gallwn benderfynu peidio ag ymchwilio i’ch cwyn am resymau eraill (er enghraifft, oherwydd bod y Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd wedi cwblhau adolygiad llawn a theg o’ch achos). Byddwn bob amser yn esbonio ein rhesymau i chi.
Os gallwn ymchwilio i’ch cwyn, rydym ond yn debygol o ymchwilio os ydym o’r farn ei bod yn fwy tebygol na pheidio bod y claf wedi dal COVID-19 yn yr ysbyty (efallai na fyddwn byth yn gallu dweud hynny’n bendant).
Pan fyddwn yn ymchwilio i’ch cwyn, byddwn yn ystyried:
Wrth ddod i’n penderfyniad, byddwn yn edrych ar eich tystiolaeth a’r dystiolaeth gan y Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd; y canllawiau a’r amgylchiadau oedd yn eu lle ar y pryd; a gwybodaeth gan ein cynghorwyr clinigol os bydd arnom angen hynny.
Gallwch wneud cwyn i Gartref Gofal eich bod chi, neu rywun arall, wedi dal COVID-19 yno. Bydd y Cartref Gofal yn ymchwilio i’ch cwyn. Os ydych yn anhapus â’r hyn y mae’r Cartref Gofal yn ei ddweud wrthych, yna gallwch gwyno i ni.
Byddwn yn ystyried eich tystiolaeth, y dystiolaeth gan y Cartref Gofal a’r canllawiau a’r amgylchiadau oedd yn eu lle ar y pryd; a gwybodaeth gan ein cynghorwyr gofal cymdeithasol neu glinigol os bydd arnom angen hynny.
Ar hyn o bryd nid oes system fel Fframwaith Cenedlaethol y GIG i ymchwilio i achosion o heintiau COVID-19 mewn Cartrefi Gofal yn y rhan fwyaf o amgylchiadau.
Fodd bynnag, mae’r Fframwaith Cenedlaethol yn berthnasol os yw claf a oedd yn yr ysbyty wedi dal COVID-19 a’i fod wedi’i ryddhau i gartref gofal wedi hynny.