Mae’r dudalen hon yn esbonio sut y gallwch ofyn am wybodaeth y gallwn fod yn ei chadw amdanoch. Mae ffordd wahanol o wneud cais os ydych chi eisiau gwybodaeth am ein gwaith. Cyn i chi wneud cais am wybodaeth, dylech ddarllen ein Canllaw i Wybodaeth sy’n dweud wrthych am y wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi ar ein gwefan fel mater o drefn.
Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredin a’r Ddeddf Diogelu Data 2018 yn rhoi’r hawl i chi gyrchu’r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch. Caiff hyn ei alw yn gais am fynediad at ddata gan destun y data hynny. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd i ddysgu am eich hawliau gwybodaeth eraill. Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd hefyd yn dweud wrthych pam a sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Nid oes tâl i chi wneud cais i weld y wybodaeth sydd gennym amdanoch. Bydd angen i chi roi digon o wybodaeth i ni fel y gallwn brofi mai chi yw pwy rydych yn dweud ydych. Er enghraifft, eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost. Rydym hefyd angen disgrifiad o’r wybodaeth rydych yn chwilio amdani, megis gwybodaeth am y gŵyn a wnaethoch i ni.
Gallwch e-bostio eich cais at:
Cais.gwybodaeth@ombwdsmon.cymru
Gallwch hefyd ysgrifennu atom:
Rheolwr Llywodraeth Gwybodaeth
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5LJ
Cyn i chi anfon eich cais, efallai y byddwch am ddarllen cyngor Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ynghylch sut i ofyn am wybodaeth. Ewch i wefan yr ICO.
Byddwn yn anfon cadarnhad i chi ein bod wedi derbyn eich cais. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn rhagor o gwestiynau i’n helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi roi rhagor o wybodaeth i ni i brofi pwy ydych.
Byddwn yn ateb eich cais o fewn 1 mis ond gall gymryd mwy o amser yn dibynnu ar ba mor gymhleth yw eich cais. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd angen mwy o amser arnom.
Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd sy’n agored a thryloyw ac rydym am roi cymaint o wybodaeth ag y gallwn i chi fel y gallwch ddeall unrhyw benderfyniadau a wnaethom. Fodd bynnag, ni fyddwn yn rhoi gwybodaeth os ydym yn meddwl y byddai’n achosi niwed i rywun neu’n rhwystro ein gallu i gyflawni ein swyddogaethau.
Rydym yn ystyried cwynion o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 a Deddf Llywodraeth Leol 2000. Cawn ein hatal rhag rhannu gwybodaeth o gwynion oni bai am reswm sydd wedi’i nodi yn un o’r Deddfau.
Os na allwn roi popeth rydych wedi gofyn am gael gweld byddwn yn rhoi gwybod i chi pam.
Os ydych am weld eich cofnodion meddygol, dylech ofyn i’ch Practis Meddyg Teulu, ysbyty neu ddeintydd. Efallai na fydd gennym eich holl gofnodion meddygol gan ein bod ond yn gofyn am wybodaeth i’n helpu i ystyried eich cwyn. Darllenwch gyngor GIG 111 Cymru ar gael copïau o’ch cofnodion meddygol.
Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd rydym wedi delio â’ch cais gallwch ofyn am adolygiad.
Ein Prif Gynghorwr Cyfreithiol sydd fel arfer yn cynnal adolygiadau o geisiadau am wybodaeth. Byddant yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith o’r dyddiad y byddwch yn gofyn am adolygiad mewnol. Efallai y bydd angen i ni ymestyn hyn i 40 diwrnod gwaith weithiau.
Gallwch e-bostio eich cais am adolygiad mewnol i cais.gwybodaeth@ombwdsmon.cymru.
Gallwch hefyd ysgrifennu at:
Prif Gynghorwr Cyfreithiol
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5LJ
Os ydych chi’n parhau i fod yn anhapus a’n hymateb, gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.