Dewis eich iaith
Cau

Addysg : Cyngor Caerdydd

Dyddiad yr Adroddiad

12/02/2022

Pwnc

Addysg

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202105614

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Caerdydd

Cwynodd Mrs A am y ffordd yr oedd y Cyngor wedi delio â’i chŵyn am gorff llywodraethu ysgol. Penodwyd ymchwilydd annibynnol i ymchwilio i’w chwyn ond nid oedd Mrs A wedi cael gwybod beth oedd canlyniad yr ymchwiliad er gwaethaf sicrwydd a roddwyd gryn amser cyn iddi wneud ei chwyn i’r Ombwdsmon y byddai hyn yn digwydd.

Er mwyn setlo ei chwyn, ymrwymodd y Cyngor i roi canlyniad yr adroddiad i Mrs A o fewn 10 diwrnod (neu, yn niffyg hynny, i roi gwybod iddi pa bryd y gallai ddisgwyl y canlyniad, a byddai hynny cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol beth bynnag). Byddai hyn yn cynnwys ymddiheuriad ysgrifenedig am yr oedi wrth gwblhau’r ymchwiliad.

Yn ôl