Dewis eich iaith
Cau

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth : Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad yr Adroddiad

23/03/2022

Pwnc

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202006423

Math o Adroddiad

Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y g?yn heb ei chadarnhau

Corff Perthnasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cwynodd Mr X, ar ôl biopsi ym mis Hydref 2020, a oedd yn cadarnhau bod ganddo ganser ymosodol ar y prostad, nad oedd y Bwrdd Iechyd yn gallu rhoi dyddiad ar gyfer llawdriniaeth iddo. Oherwydd pryderon Mr X am effaith yr oedi, gofynnodd am driniaeth breifat a chafodd driniaeth prostadectomi (llawdriniaeth i dynnu’r prostad) ar 6 Rhagfyr 2020.
Mae gan y Bwrdd Iechyd gontract ag Ymddiriedolaeth yn Lloegr (“yr Ymddiriedolaeth”) i ddarparu triniaethau prostadectomi i gleifion Byrddau Iechyd; roedd Mr X i fod i gael asesiad dros y ffôn (“yr ymgynghoriad”) gydag ysbyty dynodedig yr Ymddiriedolaeth (“Ysbyty’r Ymddiriedolaeth”) ar 20 Tachwedd 2020. Bryd hynny, cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd, os oedd claf yn mynd ymlaen i gael llawdriniaeth, bod hyn yn digwydd tua 2-3 wythnos ar ôl yr ymgynghoriad. Fodd bynnag, ar ôl yr apwyntiad preifat ar 10 Tachwedd, penderfynodd Mr X ddewis llawdriniaeth breifat a chysylltodd â’r Bwrdd Iechyd ar 17 Tachwedd i ganslo’r ymgynghoriad. Cafodd lawdriniaeth ar 6 Rhagfyr.
Canfu’r Ombwdsmon mai dewis Mr X oedd cael triniaeth breifat. Fodd bynnag, gan fod Mr X wedi penderfynu canslo’r ymgynghoriad gydag Ysbyty’r Ymddiriedolaeth, nid oedd yn bosib gwybod pa wybodaeth/camau gweithredu fyddai wedi cael eu cymryd yn dilyn yr ymgynghoriad. Gan nad oedd Mr X wedi cael llawdriniaeth breifat erbyn yr ymgynghoriad, ni fyddai wedi bod yn afresymol disgwyl iddo fod wedi cael yr ymgynghoriad; pe bai wedi cael gwybod na ellid cynnig dyddiad ar gyfer llawdriniaeth yn y dyfodol agos, mae’n bosib y byddai’r Ombwdsmon wedi dod i gasgliad gwahanol. Fodd bynnag, gan nad oedd Mr X wedi mynd i’r ymgynghoriad, ni allai’r Ombwdsmon wybod a fyddai wedi cael dyddiad ar gyfer llawdriniaeth.

Yn ôl