25/06/2021
Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
Datrys yn gynnar
202100227
Datrys yn gynnar
Cymdeithas Tai Hafod
Cwynodd Mr Y am y modd yr oedd y Gymdeithas Dai wedi delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion eraill yn ymwneud â chyfarpar CCTV a storfa finiau.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas Dai wedi rhoi caniatâd ôl-weithredol i Mr Y i osod y camera CCTV. Hefyd, fel rhan o’r cytundeb hwn, roedd ymrwymiad ar Mr Y i ddangos tystiolaeth o ddefnydd priodol. Gan fod y Gymdeithas Dai wedi cael adroddiadau bod y camera wedi cael ei symud, ni chafodd yr Ombwdsmon ei berswadio bod cais y Gymdeithas Dai am dystiolaeth o ddefnydd priodol yn amhriodol. O ran mater y storfa finiau, cytunodd y Gymdeithas Dai i godi ffens i ddiffinio’r ffin rhwng eiddo Mr Y ac eiddo ei gymydog. Gan fod y Gymdeithas Dai wedi cymryd camau i ddatrys y mater, nid oedd dim mwy y gallai’r swyddfa hon ei wneud. Roedd datrysiad addas wedi’i gynnig ac roedd cynllun wedi’i roi ar waith i roi sylw i’r mater.
O ran cwyn Mr Y am ymddygiad gwrthgymdeithasol, cafwyd gwybodaeth newydd gan y Gymdeithas Dai ar ôl iddo ymateb i gŵyn Mr Y. Cytunodd felly i gwrdd â Mr a Mrs Y i drafod yr wybodaeth newydd ac i ymchwilio i’r dystiolaeth yn unol â’i pholisi ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau roedd y Gymdeithas Dai wedi cytuno i’w cymryd yn rhesymol i ddatrys y gŵyn.