28/05/2021
Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
Datrys yn gynnar
202100967
Datrys yn gynnar
Cymdeithas Tai Unedig Cymru
Cwynodd Ms X fod ei chymydog, sy’n denant i Gymdeithas Tai Unedig Cymru, wedi arddangos ymddygiad gwrthgymdeithasol ac wedi bygwth trais tuag ati. Dywed Ms X ei bod yn teimlo fel carcharor yn ei chartref ei hun.
Mae Cymdeithas Tai Unedig Cymru wedi cytuno i’r canlynol:
Bydd y Swyddog Cymdogaeth yn trefnu ymweliad wyneb yn wyneb â Ms X i drafod ei phryderon ymhellach a phenderfynu sut y gall y gymdeithas ddarparu cefnogaeth bellach iddi. Yn dilyn hyn, mae’r gymdeithas wedi cytuno i ddarparu ymateb ysgrifenedig pellach i Ms X (yn manylu ar ei gweithredoedd hyd yma ac unrhyw gamau y cytunwyd arnynt). Bydd yn gwneud hyn cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl yr ymweliad.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad addas i’r gŵyn.