24/06/2021
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202001962
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Mr B nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cynnal asesiadau priodol nac wedi gwneud atgyfeiriadau addas ers 2107 yn dilyn ei gais i gael ei atgyfeirio i Glinig Hunaniaeth Rhywedd. Cwynodd hefyd am safon y cyfathrebu ynglŷn â chynnydd ei gais, a dywedodd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cadw cofnodion priodol.
Canfu’r Ombwdsmon fethiannau i gynnal asesiad priodol yn 2017, nad oedd asesiad yn 2018 wedi nodi bod Mr B yn ateb y meini prawf i gael ei atgyfeirio, ac na ymdriniwyd yn briodol â her yn 2018 i ganlyniad yr asesiad. Canfu hefyd fod Mr B wedi cael ei gamarwain i gredu bod atgyfeiriad wedi’i wneud er nad oedd hynny’n wir, ac nad oedd wedi cael ei hysbysu o’r broses atgyfeirio na’r penderfyniadau roedd y Bwrdd Iechyd yn eu gwneud. Yn olaf, canfu’r Ombwdsmon nad oedd y cofnodion yn adlewyrchu’r derminoleg ddiagnostig briodol (a allai fod wedi cyfrannu at y dryswch ynglŷn â chymhwystra Mr B i gael atgyfeiriad) ac roeddent yn dangos nad oedd clinigwyr yn cyfeirio at Mr B drwy ddefnyddio’r enw a’r rhagenwau a ffefrid ganddo.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr B ac i gynnig £2000 o fewn 1 mis, i gydnabod y trallod a achoswyd iddo o ganlyniad i’r methiannau hyn. Gan fod y broses atgyfeirio wedi newid ers y digwyddiadau hyn, cytunodd hefyd i atgoffa staff perthnasol o’r broses atgyfeirio briodol gyfredol ar gyfer unigolion sydd angen gofal iechyd rhywedd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ddarparu hyfforddiant i staff perthnasol o fewn 6 mis, ar ymagwedd gyfredol y GIG tuag at ddiagnosis a symptomau’n ymwneud ag ymwybyddiaeth o ofal iechyd rhywedd, amrywiaeth draws-gynhwysol a diwallu anghenion unigolion trawsryweddol.