19/01/2022
Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu
Adroddiad Diddordeb Cyhoeddus
202100061
Adroddiad budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi ei chadarnhau
Cyngor Caerdydd
Cwynodd Mrs D, Mrs F a Miss P (“yr achwynwyr”) fel ei gilydd fod Gwasanaeth Cymorth Casglu Gwastraff (Assisted Lift) Cyngor Caerdydd wedi methu â diwallu eu hanghenion (neu yn achos Miss P, anghenion ei mam) fel preswylwyr bregus yn gyson. Roeddent hefyd yn cwyno bod y Cyngor wedi methu ag ymateb yn ddigonol i’w hadroddiadau a’u cwynion am broblemau gyda’r gwasanaeth.
Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth yn yr eiddo dan sylw oherwydd bod y preswylwyr yn anabl ac nad oeddent yn gallu rhoi’r gwastraff ar gyfer ei gasglu allan eu hunain. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon bod y Cyngor wedi methu â darparu gwasanaeth dibynadwy i’r preswylwyr. Roeddent i gyd wedi cael profiad o wastraff ddim yn cael ei gasglu dro ar ôl tro dros gyfnodau estynedig o amser ac roedd Mrs D hefyd wedi cael problemau gyda’i biniau’n cael eu gadael mewn safleoedd anniogel.Canfu’r Ombwdsmon fod y rhain yn fethiannau difrifol mewn gwasanaeth a oedd gyfystyr ag anghyfiawnder amlwg, oherwydd bod rhai o drigolion mwyaf bregus y Cyngor heb gael gwasanaeth hanfodol dibynadwy a ddylai fod ar gael i bawb. Yn ogystal â byw gyda’r straen o beidio â gwybod a fyddai eu gwastraff yn cael ei gasglu, roedd yn rhaid i’r preswylwyr yn aml ddioddef gwastraff yn cronni yn eu heiddo a oedd yn cael effaith negyddol sylweddol ar eu mwynhad o’u cartrefi ac a allai beri risg i’w hiechyd a’u diogelwch. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn dangos amarch difrifol tuag at y preswylwyr, 2 ohonynt yn eu 90au, oherwydd eu bod wedi gorfod dioddef anhwylustod o’r fath am gyfnod mor hir.
Yn ogystal, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn am ymateb y Cyngor i’r adroddiadau a’r cwynion a gafodd am y gwasanaeth Cymorth Casglu Gwastraff. Canfu nad oedd y Cyngor, er iddo gael cwynion ffurfiol dro ar ôl tro a channoedd o alwadau gan yr achwynwyr, wedi cydnabod na gweithredu’n briodol ar eu pryderon. Roedd y Cyngor yn aml wedi methu cywiro’r casgliadau a fethwyd yr oedd yr achwynwyr wedi rhoi gwybod iddo amdanynt o fewn yr amserlenni disgwyliedig a, pan ofynnodd yr achwynwyr am gael siarad â goruchwyliwr, roeddent yn aml yn gorfod aros am fisoedd am alwad yn ôl neu nid oeddent wedi cael galwad yn ôl o gwbl. Canfu’r Ombwdsmon fod hyn wedi achosi gofid y gellid ei osgoi iddynt dros gyfnod hir, a oedd gyfystyr ag anghyfiawnder sylweddol.
Canfu’r Ombwdsmon dystiolaeth o broblemau systemig gyda’r gwasanaeth Cymorth Casglu Gwastraff, a hynny’n bennaf oherwydd methiant i gyfleu gwybodaeth am eiddo cofrestredig yn effeithiol i aelodau’r criw ar y rheng flaen. Roedd yn arbennig o bryderus nad oedd y Cyngor wedi rhoi sylw priodol i’r problemau hyn ac y gallent fod yn effeithio ar nifer o breswylwyr bregus eraill.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor gymryd y camau canlynol er mwyn mynd i’r afael â’r anghyfiawnderau a brofwyd gan yr achwynwyr a gwella’r gwasanaeth Cymorth Casglu Gwastraff yn gyflym er budd yr holl breswylwyr sy’n ei ddefnyddio:
• Ymddiheuro i’r achwynwyr (gan gynnwys 2 achwynydd ychwanegol a nodwyd gan yr Ombwdsmon), talu £250 i bob un ohonynt ar gyfer yr amser a’r drafferth oedd yn gysylltiedig â mynd ar ôl eu cwynion a’u had-dalu am gost galwadau ffôn i’r Cyngor
• Trefnu bod goruchwyliwr casgliadau gwastraff dynodedig yn cysylltu â’r achwynwyr i ddatrys unrhyw bryderon sy’n parhau
• Sicrhau ei fod yn delio â chwynion tebyg y mae’n eu cael am y gwasanaeth Cymorth Casglu Gwastraff mewn ffordd gyson â’r cwynion yr wyf wedi ymchwilio iddynt, gan ddarparu iawndal pan fo’n briodol yn unol â’r argymhellion uchod
• Cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r gwasanaeth Cymorth Casglu Gwastraff.
• Llunio cynllun gweithredu ar gyfer gwelliannau a rhannu manylion y camau gweithredu arfaethedig â holl ddefnyddwyr y gwasanaeth
• Cynnal adolygiad i sicrhau bod yr holl adroddiadau a chwynion am y gwasanaeth Cymorth Casglu Gwastraff yn cael eu trin yn effeithiol ac, yn gyffredinol, bod cwynion mynych gan breswylwyr bregus yn cael eu huwchgyfeirio’n briodol.
Roedd yr Ombwdsmon yn falch fod y Cyngor wedi derbyn ei adroddiad a’i argymhellion.