Dewis eich iaith
Cau

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu: Cyngor Caerdydd

Dyddiad yr Adroddiad

14/12/2023

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202305997

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Caerdydd

Cwynodd Mr A fod Cyngor Caerdydd yn rheolaidd heb gasglu ei wastraff, er iddo gysylltu â nhw droeon. Cwynodd ymhellach am yr ymatebion a ddarparwyd gan y Cyngor.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi siarad â Mr A dros y ffôn ac wedi anfon gohebiaeth iddo drwy ebost, nad oedd wedi darparu ymateb ysgrifenedig llawn i’w bryderon. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ddarparu ymateb ysgrifenedig llawn i gŵyn Mr A iddo o fewn 4 wythnos.

Yn ôl