12/08/2021
Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu
Datrys yn gynnar
202102952
Datrys yn gynnar
Cyngor Caerdydd
Cwynodd Miss X nad oedd ei bin gwastraff bwyd wedi cael ei gasglu sawl gwaith gan achosi anhwylustod iddi.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor roi ymateb ysgrifenedig ffurfiol i Miss X (o fewn 3 wythnos) a ddylai gynnwys ymddiheuriad a sicrwydd y bydd ei Reolwr Tîm Casgliadau yn monitro’r sefyllfa i sicrhau y gwneir pob ymdrech i gasglu gwastraff Miss X yn y dyfodol.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.