06/10/2021
Cyllid a Threthiant
Datrys yn gynnar
202104213
Datrys yn gynnar
Cyngor Sir Ceredigion
Cwynodd Mr X nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd yn Ebrill 2021 ynghylch materion yn ymwneud â’i daliadau treth cyngor.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor roi ymateb “cam dau” i Mr X (o fewn tair wythnos) yn cynnwys esboniad am yr oedi. Byddai’r Cyngor hefyd yn gwneud asesiad i benderfynu a oedd Mr X wedi colli allan yn ariannol oherwydd yr oedi. Byddai hefyd yn ystyried gwneud taliad “amser a thrafferth” drwy orfod mynd ar ôl y mater a chysylltu â’r Ombwdsmon.
Roedd yr Ombwdsmon yn ystyried bod hyn yn datrys y gŵyn yn briodol yn lle cynnal ymchwiliad.