27/09/2022
Cynllunio a Rheoli Adeiladu
Datrys yn gynnar
202202558
Datrys yn gynnar
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cwynodd Mr A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi methu â chymryd camau amserol a phriodol mewn perthynas â’i bryderon ynghylch datblygiad tai ger ei gartref. Yn ogystal, roedd yn anhapus â’r ffordd y gwnaeth y Cyngor drin ei gwynion.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y cyngor wedi ymchwilio’n ffurfiol i bryderon Mr A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gydnabod cwyn Mr A o fewn deg diwrnod gwaith ac i ddarparu ymateb yn unol â’i Bolisi Pryderon a Chwynion.
20. Cwynodd Ms B fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’r pryderon yr oedd wedi’u codi am ei phractis meddyg teulu.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod pryderon Ms B a bod y practis meddyg teulu wedi ymateb iddi yn uniongyrchol. Fodd bynnag, ni esboniodd y Bwrdd Iechyd wrth Ms B pam nad oedd wedi ymchwilio i’w phryderon am y practis meddyg teulu ei hun.
O ganlyniad, cytunodd y Bwrdd Iechyd i’r camau gweithredu canlynol erbyn 17 Hydref 2022:
a) Ymddiheuro am fethu ag ymateb i Ms B.
b) Darparu esboniad i Ms B ynghylch pam na wnaeth / na fyddai’n ymchwilio i’w phryderon am ei phractis meddyg teulu.