Dewis eich iaith
Cau

Cynllunio a Rheoli Adeiladu: Cyngor Caerdydd

Dyddiad yr Adroddiad

01/12/2023

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202306440

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Caerdydd

Cwynodd Mr H fod Cyngor Caerdydd wedi methu dilyn ei broses gwyno fewnol. Cyflwynodd gwyn â llaw ar 20 Gorffennaf 2023. Defnyddiodd y ffurflen ar-lein ar 8 Awst i gysylltu â nhw i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf. Ni chafodd Mr H ymateb.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor ac fe ddywedodd wrthi ei fod wedi ceisio cysylltu â Mr H ar ôl derbyn y ffurflen gyswllt ar-lein i esbonio na allai ddod o hyd i’w gŵyn wreiddiol ac i ofyn am wybodaeth ychwanegol. Canfu’r Ombwdsmon fod y neges ebost wedi’i hanfon i’r cyfeiriad anghywir. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb fwrw ymlaen ag ymchwiliad.

Cytunodd y Cyngor i ysgrifennu at Mr H, o fewn wythnos, i ymddiheuro’n uniongyrchol am y camgymeriad, i esbonio beth aeth o’i le ac i gynnig £100 iddo. Cytunodd hefyd i chwilio am yr wybodaeth yr oedd ei hangen i agor cwyn newydd.

Yn ôl