08/06/2021
Cynllunio a Rheoli Adeiladu
Datrys yn gynnar
202100791
Datrys yn gynnar
Cyngor Dinas Casnewydd
Cwynodd Mrs C nad oedd Cyngor Dinas Casnewydd (“y Cyngor”) wedi cyfathrebu’n briodol â hi neu ei hasiant yn ystod cais cynllunio a wnaed ganddi am estyniad i’w chartref. Dywedodd fod oedi wedi bod yn y broses a’i bod wedi colli’r cyfle i apelio yn erbyn ei benderfyniad i wrthod ei chais oherwydd cyfathrebu gwael ar ran ei swyddogion cynllunio.
Cwynodd hefyd nad oedd neb o’r Cyngor wedi siarad â hi yn ystod ei ymchwiliad i’w chŵyn.
Roedd yr Ombwdsmon, yn ystod ei asesiad o’i chŵyn iddo, yn bryderus ynglŷn â chyfathrebu’r Cyngor pan fu oedi cyn cyhoeddi adroddiad y swyddog cynllunio. Ceisiodd gywiro hyn yn ei ymateb Cam 1 i gŵyn Mrs C, ond nid oedd wedi egluro hyn yn llawn wrthi pan gynigiodd hepgor ei ffi cyn ymgeisio. O ganlyniad cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor.
Cytunodd i:
1. Sicrhau y byddai swyddog cynllunio’n cysylltu â hi o fewn 14 diwrnod gwaith o ddyddiad y llythyr penderfyniad i’w helpu ag unrhyw gyngor ynglŷn ag ymholiad cyn gwneud cais.
2. Trefnu ymweliad safle i’w heiddo fel rhan o’r broses cyn ymgeisio hon.
3. Hepgor unrhyw ffioedd am ailgyflwyno cais cynllunio ganddi am estyniad i’w chartref cyn 21 Gorffennaf 2021.
Mae’r Ombwdsmon yn fodlon y bydd y camau hyn yn datrys cwyn Mrs C.