24/05/2021
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)
Datrys yn gynnar
202006336
Datrys yn gynnar
Trivallis
Cwynodd Mr X nad oedd y Gymdeithas wedi dechrau na chwblhau unrhyw ran o’r gwaith i’w eiddo, fel yr amlinellwyd yn ei ymateb i’w gŵyn, dyddiedig 18 Rhagfyr 2020.
Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr oedi yr oedd Mr X wedi’i brofi, nad oedd y Gymdeithas wedi glynu wrth yr amserlenni a osodwyd yn ei llythyr ymateb a’i bod wedi dioddef anghyfleustra gan weithredoedd y Gymdeithas.
Cytunodd y Gymdeithas i wneud y canlynol er mwyn setlo cwyn Mr X:
Ymddiheuro i Mr X am yr oedi cyn ymateb i’w gŵyn.
Rhoi esboniad i Mr X am yr oedi hwn.
• Rhoi ymateb i gŵyn Cam 2 i Mr X a ddylai fynd i’r afael â’r materion sylweddol a godwyd yn ei gŵyn.
Cytunodd y gymdeithas i gyflawni’r camau uchod o fewn 4 wythnos i ddyddiad y llythyr hwn, erbyn 21 Mehefin 2021.