16/03/2022
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)
Datrys yn gynnar
202107482
Datrys yn gynnar
Trivallis
Cwynodd Miss X fod y Gymdeithas wedi methu â chwblhau gwaith yn ei heiddo ac na fyddai’n cyfathrebu’n effeithiol â hi.
Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn poeni bod Miss X wedi ei chyfyngu rhag cysylltu â’r Gymdeithas dros y ffôn ac nad oedd gohebiaeth ysgrifenedig gan y Gymdeithas bob amser yn glir nac mewn print bras. Yn lle ymchwiliad, gofynnodd i’r Gymdeithas gwblhau’r canlynol er mwyn setlo cwyn Miss X:
Erbyn 31 Mawrth 2022,
a) Ymddiheuro i Miss X am y cyfathrebu gwael
b) Rhoi ymateb manwl i Miss X mewn perthynas â’r gŵyn sy’n mynd i’r afael â’r materion sy’n ymwneud ag atgyweiriadau a chyfathrebu sydd heb eu datrys