16/03/2022
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)
Datrys yn gynnar
202106894
Datrys yn gynnar
Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd
Cwynodd Mr X nad oedd y Gymdeithas wedi cwblhau atgyweiriadau yn ei eiddo ac nad oedd wedi ymateb yn llawn i’w gŵyn.
Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Gymdeithas wedi ymateb yn llawn i gŵyn Mr X ac nad oedd wedi rhoi sylw i’r holl bryderon a godwyd ganddo. Yn lle ymchwiliad, gofynnodd i’r Gymdeithas gwblhau’r canlynol er mwyn setlo cwyn Mr X:
Erbyn 21 Mawrth 2022,
a) Ymddiheuro i Mr X am fethu ag ymateb yn llawn i’w gŵyn.
b) Rhoi ymateb manwl cam dau i gŵyn Mr X, gan roi sylw i’r holl faterion sydd heb eu datrys a godwyd yn y gŵyn.