Dewis eich iaith
Cau

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl) : Cymdeithas Tai Hafod

Dyddiad yr Adroddiad

10/02/2023

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202206299

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cymdeithas Tai Hafod

Cwynodd Ms Z fod Cymdeithas Dai Hafod wedi methu â gwneud gwaith atgyweirio angenrheidiol ar ei heiddo a heb ymateb i’w chŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod gan y Gymdeithas gyda chwblhau’r gwaith angenrheidiol. Roedd hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Ms Z. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwilio.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro wrth Ms Z ac ymateb i’w chŵyn, yn cynnwys atodlen waith, o fewn pedair wythnos.

Yn ôl