Dewis eich iaith
Cau

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl) : Cymdeithas Tai Linc Cymru

Dyddiad yr Adroddiad

12/08/2021

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202102030

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cymdeithas Tai Linc Cymru

Cwynodd Miss X nad oedd y Gymdeithas wedi gwneud gwaith atgyweirio brys yn ei chartref, ac nad oedd wedi ymateb yn ddigonol i’w chwyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr oedi wrth wneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol, yr oedi o ran rhoi gwybod i Miss X am statws yr atgyweiriadau a’i bod wedi cael ei hanhwyluso gan weithredoedd y Gymdeithas. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i:

• Ymddiheuro i Miss X am yr oedi cyn mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn ei chwyn

• Rhoi ymateb pellach i gŵyn Miss X, gan amlinellu’r camau a gynigir i fynd ymhellach i’r afael â materion sylweddol ei chwyn, a fyddai’n cynnwys unrhyw gamau gweithredu sydd eisoes wedi cael sylw.

Cytunodd y Gymdeithas i gyflawni’r camau gweithredu o fewn pythefnos.

Yn ôl