23/07/2021
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)
Datrys yn gynnar
202101940
Datrys yn gynnar
Cyngor Abertawe
Cwynodd Mr X wrth yr Ombwdsmon am y difrod a achoswyd i’w eiddo o ganlyniad i ddŵr yn gollwng o’r eiddo uwchben ei eiddo ef. Gwrthododd yswirwyr y Cyngor ei hawliad am iawndal ar y sail nad oedd esgeulustod.
Wrth ystyried y gŵyn, nododd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ystyried pryderon Mr X drwy ei drefn gwyno.
Yn dilyn trafodaethau gyda’r Ombwdsmon, cytunodd y Cyngor y byddai’n rhoi ymateb ysgrifenedig i gŵyn Mr X o fewn 30 diwrnod gwaith.