11/01/2022
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)
Datrys yn gynnar
202105043
Datrys yn gynnar
Cyngor Bro Morgannwg
Cwynodd Mrs A na wnaeth Cyngor Bro Morgannwg gynnal gwaith atgyweirio i’w heiddo ac na roddodd ymateb ffurfiol i’w chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs A wedi gofyn am gyngor cyfreithiol mewn perthynas â hawliad diffyg atgyweirio yn erbyn y Cyngor, felly ystyriodd bryderon Mrs A ynglŷn â delio â’r gŵyn yn unig. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi darparu ymatebion amserol i adroddiadau a cheisiadau Mrs A am atgyweiriadau, ac nid oedd wedi rhoi ymateb ffurfiol i’r gŵyn.
Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Roedd yr Ombwdsmon wedi gofyn i’r Cyngor ymddiheuro i Mrs A na chafodd ei chŵyn ei thrin felly, ac i roi ymateb i’r gŵyn, a chytunodd y Cyngor i hynny. Cytunodd hefyd i gynnig iawndal o £125 i Mrs A i gydnabod yr amser a’r drafferth a gymerodd i wneud y gŵyn. Cytunodd y Cyngor i gymryd y camau hyn o fewn 20 diwrnod gwaith.