Dewis eich iaith
Cau

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl) : Cyngor Caerdydd

Dyddiad yr Adroddiad

25/09/2023

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202304588

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Caerdydd

Cwynodd Mr X nad oedd Cyngor Caerdydd wedi ymchwilio’n llawn i’r hyn oedd yn achosi lleithder yng nghartref ei gleient. Honnodd fod hyn wedi achosi oedi ac anghyfleuster diangen. Cwynodd hefyd ynghylch anghywirdeb ac anghysonderau yn adroddiad y Cyngor.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi a diofalwch wedi bod wrth gynnal archwiliad o leithder pellach ar ffurf canslo apwyntiadau, a methiant i drefnu apwyntiadau dilynol ar gyfer gwaith yn yr eiddo. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i gleient Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gysylltu â chleient Mr X cyn pen 2 wythnos i drefnu archwiliad lleithder brys ac i wneud trefniadau pellach i ail-bwyntio’r bricwaith / gosod rhodenni gwrthsefyll dŵr. Dylai hefyd gyhoeddi llythyr o ymddiheuriad i gleient Mr X am y dryswch a’r oedi a achoswyd drwy ganslo’r gwaith blaenorol, ac am y diofalwch yn peidio â mynd ar drywydd hyn.

Yn ôl